Mae arolwg gan undeb athrawon yr NUT yn dangos bod bron i hanner athrawon Cymru yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Fe holwyd cyfanswm o 452 o athrawon fel rhan o’r arolwg gan YouGov, dywedodd 210 eu bod yn bwriadu gadael, tra bod 242 wedi dweud nad oedden nhw’n bwriadu rhoi’r gorau i’w gwaith.

Y prif achosion yn ôl yr arolwg, sy’n cymell athrawon i ystyried gadael y proffesiwn yw llwyth gwaith, y gofynion cynyddol gan reolwyr a diffyg cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol.

Roedd 85% o’r athrawon yn teimlo bod eu moral wedi gostwng yn ystod pum mlynedd diwethaf, gyda nifer o athrawon yn codi pryderon am eu hiechyd meddwl a chorfforol fel rhesymau dros adael.

‘Hyder yn isel’

Wrth ymateb i’r arolwg, dywedodd Owen Hathway, swyddog polisi NUT Cymru, fod yr arolwg yn dangos pryderon am y proffesiwn: “Rydym mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae hyder y proffesiwn yn isel ac mae ’na bryder sut ydan ni yn mynd i sicrhau i ddenu pobl i’r proffesiwn a’u cadw nhw yn y proffesiwn yn y dyfodol os yw hanner yr athrawon yn ystyried gadael oherwydd pwysau gwaith.”

Ychwanegodd: “Mae’r athrawon yn fodlon gyda’r gwaith papur maen nhw’n gweld sy’n cefnogi disgyblion yn y dosbarth ond mae’r llwyth papur y mae athrawon yn ei wneud gyda marcio, asesu, cynllunio ac yn y blaen, ac weithiau gwaith papur sy’n cael ei wneud jyst er mwyn cael ei weld, yn achosi pwysau gwaith ar athrawon sydd ddim yn cefnogi dysgu da yn y dosbarth.”

Mae Owen Hathway yn dadlau fod hyn yn debygol o effeithio ar wella safonau yn y tymor hir a chyflawni’r targedau, fel yr eglurodd: “Os edrychwn ni ar ganlyniadau PISA a chanlyniadau TGAU ag yn y blaen, y broblem sydd gyda ni yw, rydym mewn sefyllfa lle mae hyder a moral y proffesiwn yn isel achos y pwysau gwaith sydd arnyn nhw, ac mae hynny’n tynnu ffwrdd o ddysgu plant.”

‘Newid yr amgylchedd’

Ychwanegodd fod angen newid yr amgylchedd a’r system er mwyn sicrhau fod y gyfundrefn addysg yn gwella canlyniadau PISA: “Dy’n ni ddim mewn sefyllfa i gyrraedd y nod yn PISA neu gyrraedd canlyniadau hir dymor positif o ran ein cymwysterau ni oherwydd y fath sustem sydd gynnon ni a’r amgylchedd yn yr ysgolion.

“Mae angen edrych ar leihau pwysau ar athrawon sydd wedyn am adael i athrawon weithio’n agosach gyda disgyblion er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod gyda chanlyniadau PISA.”