Alton Towers
Mae’r cwmni sy’n berchen parc Alton Towers wedi datgelu fod y ddamwain ar un o’u hatyniadau ddechrau’r haf wedi arwain at gwymp sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros gyfnod prysur yr haf.

Cafodd pump o bobl eu hanafu yn ddifrifol yn y ddamwain ar 2 Mehefin  ar yr atyniad y Smiler, a bu’n rhaid cau’r parc adnabyddus yn Swydd Stafford am bedwar diwrnod.

Mae cwmni Merlin Entertainments wedi gweld eu helw’n plymio 11.4%  ar draws yr adran parciau antur dros y naw mis cyntaf o’r flwyddyn ariannol, gyda’r nifer yn mynd i barc Alton Towers wedi gostwng yn sylweddol. Mae eu parc arall Thorpe Park hefyd wedi gweld cwymp.

Mae’r cwmni wedi rhybuddio y bydd yr elw ar gyfer eu parciau yn debyg o gwympo gyda’r effaith yn parhau yn ystod 2016.

Bu un o’r dioddefwyr, Vicky Balch, a gollodd ei choes yn y ddamwain, yn siarad ddoe gyda’r BBC am ei phrofiad yn dygymod a’i bywyd wedi’r ddamwain.