Nadia Jones
Mae dyn, 34 oed, a dynes, 26 oed, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Nadia Jones yng Nghaerdydd.
Cafwyd hyd i’w chorff yn ei fflat yn Meirion Place, yn Nhremorfa ar ddydd Gwener, 11 Medi.
Fe fydd y ddau yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw.
Mae dynes 51 oed a oedd hefyd wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Nadia Jones wedi cael ei rhyddhau yn ddi-gyhuddiad ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn ei herbyn, meddai Heddlu De Cymru.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd mam Nadia Jones mewn datganiad, ei bod yn ferch “hapus a bywiog, gyda gwen ar ei hwyneb.”
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 1010 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500334982.