Elin Jones
Byddai Plaid Cymru’n gwarchod buddsoddiad o £590 miliwn yn y Gwasanaeth Iechyd pe baen nhw mewn grym yn y Cynulliad, yn ôl eu llefarydd iechyd, Elin Jones AC.
Ar frig rhestr blaenoriaethau’r blaid mae lleihau rhestrau aros a recriwtio rhagor o feddygon.
Mae Plaid Cymru am recriwtio 1,000 yn rhagor o feddygon er mwyn ateb y galw yng Nghymru, gan integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn lleihau amserau aros a gwarchod ysbytai lleol.
Bydd Cymru’n derbyn yr arian o ganlyniad i fuddsoddiad gwerth £8 biliwn yng Nghymru gan Lywodraeth Prydain.
‘Tranc y GIG’
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: “Mae Plaid Cymru’n canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel, a rhoi’r gwasanaeth iechyd i bobol Cymru y maen nhw’n ei haeddu.
“Mae’r llywodraeth Lafur bresennol wedi bod yn llywodraethu dros dranc y Gwasanaeth Iechyd o dan eu rheolaeth, ac mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i wyrdroi’r duedd hon.
“Allwn ni ddim fforddio pum mlynedd arall o gamreolaeth gan y llywodraeth o’n gwasanaethau cyhoeddus.
“Fe fydd Plaid Cymru’n cydweithio â staff y Gwasanaeth Iechyd i roi’r arweiniad i’r Gwasanaeth Iechyd y mae’n ei haeddu.”