Mae ’na bryder y bydd yn rhaid canslo sioe gerdd Cwmni Theatr Maldwyn, Gwydion, yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd oherwydd diffyg gwerthiant yn y tocynnau.
Hyd at ddydd Llun, dim ond 150 o docynnau oedd wedi eu gwerthu i weld y sioe.
Roedd disgwyl i’r sioe gael ei pherfformio ar 11 Hydref ond mae angen i’r cwmni werthu o leiaf 700 o docynnau i dalu costau llwyfannu’r sioe.
Cafodd pob un o’r 2,500 o docynnau eu gwerthu ar gyfer perfformiad cynta’r sioe ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni o fewn tri diwrnod iddyn nhw fynd ar werth.
Doedd y sioe heb werthu pob tocyn ar gyfer eu perfformiadau yn lleol chwaith a oedd yn Theatr Hafren, yn y Drenewydd, sy’n dal 550 o bobl, dros y penwythnos.
Mae’r sioe, sydd wedi ei chreu gan Penri Roberts, Gareth Glyn a’r diweddar Derec Williams, wedi ei selio ar un o geinciau enwocaf y Mabinogi.