Cerflun o Owain Glyndŵr
Fe fydd cyfrol arbennig i nodi chwe chanmlwyddiant marwolaeth Owain Glyndŵr yn ceisio datrys un o ddirgelion mwyaf hanes Cymru, sef ble a phryd y bu farw.
Ond dywed awdur ‘Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr’, yr Athro Gruffydd Aled Williams mai ychydig iawn o sylw sydd wedi bod i’r ffaith ei bod hi’n 600 o flynyddoedd ers marwolaeth Glyndŵr ac mae hyn yn codi’r cwestiwn o ba mor ymwybodol ydy’r Cymry o’u hanes, meddai.
“Mae’r diffyg sylw’n annisgwyl, yn enwedig o ystyried dathliadau pum canmlwyddiant Owain Glyndŵr yn 1915 pan roddodd y Bwrdd Addysg lyfrynnau i blant ysgol Cymru yn sôn am hanes Owain Glyndŵr,” meddai Aled Gruffydd Williams.
“Rhaid i mi ganmol BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ond dydy S4C heb roi unrhyw sylw i’r achlysur. Mae hynny’n adlewyrchu’n wael iawn ar ein sianel teledu genedlaethol ni.
“Dyma un o ffigurau pwysicaf Cymru, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn ei gofio.”
‘Ymchwil ‘newydd a chyffrous’
Yn y llyfr, sy’n cael ei lansio heno ar ddydd Owain Glyndŵr , mae’r Athro Gruffydd Aled Williams yn archwilio ble a phryd bu Owain Glyndŵr farw gan drafod lleoliadau sy’n cael eu datgelu gan ymchwil ‘newydd a chyffrous’ yr awdur mewn llawysgrifau a dogfennau.
“Ar ôl i Gastell Harlech syrthio i’r Saeson yn 1409, roedd Owain Glyndŵr yn ffoadur a phris ar ei ben gan symud o loches i loches,” meddai Gruffydd Aled Williams.
“Mae cofnod i gael gan y croniclwr cyfoes, Adda o Fryn Buga oedd wedi cyfarfod ag Owain yn sôn bod e wedi cael ei gladdu’n ddirgel fin nos a’i ddatgladdu wedyn i’w arbed rhag ei elynion ar ôl iddyn nhw ganfod ei fedd gwreiddiol. Roedd y cyfan yn gyfrinach.”
Mae’r awdur yn gwneud sawl canfyddiad yn y gyfrol, sy’n trafod sawl lleoliad posibl lle cafodd Owain Glyndŵr ei gladdu, y rhai mwyaf tebygol yn Swydd Henffordd yn ei ôl ef.
Ond dyw ceisio datrys un o ddirgelion mwyaf hanes Cymru ddim yn dasg hawdd.
“Er fy mod yn y gyfrol yn awgrymu lleoliadau newydd sy’n haeddu ystyriaeth ddifrifol, fe erys diwedd Glyndŵr yn ddirgelwch na ellir fyth ei ddatrys yn derfynol.”
Bydd ‘Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr’ yn cael ei lansio gan y Lolfa heno yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth am 7.30yh.