Mae pennaeth newydd BT yng Nghymru wedi cyfaddef bod angen gwneud mwy i sicrhau fod pobl mewn ardaloedd gwledig yn elwa o gysylltiadau cyflym i’r rhyngrwyd.

Fe gyhoeddodd y cwmni cyfathrebu mai Alwen Williams, sydd yn 38 oed ac yn siaradwraig Cymraeg rhugl, fydd olynydd Ann Beynon fel cyfarwyddwr BT Cymru.

Mynnodd y pennaeth newydd y byddai’r cwmni yn buddsoddi miliynau dros y blynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru’n elwa o gysylltiadau we gwell.

“Mae llawer wedi’i gyflawni yng Nghymru eisoes,” meddai Alwen Williams, a gafodd ei magu ar fferm ger Gwytherin yn Sir Conwy.

“Mae cyswllt band eang ffibr cyflym nawr ar gael i wyth o bob deg cartref a busnes yng Nghymru ac mae’r niferoedd yn parhau i dyfu’n sydyn – ond mae rhagor i’w wneud eto.”

‘Chwyldro digidol’

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd BT bod miliwn o gartrefi yng Nghymru bellach â band eang cyflym, a bod y cyfraddau yn uwch na gwledydd fel Ffrainc, Sbaen a’r Eidal.

Ac fe ddywedodd Alwen Williams ei bod hi’n awyddus i sicrhau fod y patrwm hwnnw’n parhau.

“Beth sy’n glir i mi yw bod canran uchel iawn o bobl sy’n byw yng Nghymru yn dod i gysylltiad â BT mewn un ffordd neu’r llall,” meddai.

“Rydw i eisiau sicrhau eu bod nhw’n cael argraff dda o’r cwmni – dim ots pa fath o gysylltiad yw hynny – a’n bod ni’n parhau i chwarae rhan allweddol yn y chwyldro digidol sy’n digwydd ar draws y wlad ar hyn o bryd.”