Mae dyn 72 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a char ger Wrecsam neithiwr.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad rhwng car Hyundai lliw arian a cherddwr ar yr A489 ger Acrefair, Plas Madoc tua 5:30yh nos Sul, 13 Medi.

Cafodd y dyn ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor, Wrecsam, lle mae’n dioddef o anafiadau difrifol.

Bu’r ffordd ynghau nes 9yh neithiwr, wrth i’r heddlu gynnal eu hymchwiliadau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod S140436.