Mae bachgen pum mlwydd oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fore Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Ford Focus arian, Ford Focus gwyrdd a Seat gwyn ar Rodfa’r Gorllewin am oddeutu 11.30 y bore.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae merch dwy oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r digwyddiad, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.