Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, wedi dilorni buddugoliaeth Jeremy Corbyn fel y peth olaf y mae ar Brydain ei angen.

“Gyda plaid Geidwadol mewn llywodraeth yn gweithredu fel petaen ni’n ôl yn yr 1980au, y peth olaf y dylai Llafur ei wneud yw gweithredu fel petaen ni’n ôl yn yr 1970au,” meddai.

“Efallai y bydd gwleidyddiaeth Corbyn yn creu llawer o sŵn, ond y realiti yw y bydd Llafur o dan Corbyn yn gwbl groes i’r hyn sydd ei angen ar y wlad: gwrth-Ewrop, gwrth-fusnes ac anllythrennog yn economaidd.

“Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol a all gynnig y dewis arall cyfrifol y mae miliynau o bobl yn crefu amdano.”