Jeremy Corbyn, arweinydd newydd y Blaid Lafur (llun: PA)
Jeremy Corbyn yw arweinydd newydd y Blaid Lafur, ar ôl ennill trwy fuddugoliaeth ysgubol.

Llwyddodd i ennill digon o bleidleisiau yn y rownd gyntaf, fel nad oedd angen cyfrif ail ddewisiadau ymgeiswyr eraill.

Mae’r cyhoeddiad newydd gael ei wneud mewn cynhadledd arbennig o’r Blaid Lafur yn y QEII Centre  yn Llundain.

Cafodd y rebel 66 oed, sy’n aelod seneddol ers 1983, 59.5% o’r pleidleisiau.

Daeth Andy Burnham yn ail ymhell y tu ôl iddo gyda 19.0%, ac Yvette Cooper yn drydydd ar 17.0%. Ymhell ar y gwaelod roedd Liz Kendall gyda 4.5% o’r bleidlais.

Lawn mor arwyddocaol oedd y ffaith fod Jeremy Corbyn ymhell ar y blaen ym mhob adran o’r pleidleiswyr, gan ennill cefnogaeth bron i hanner aelodau cyflawn y Blaid Lafur, 57% o aelodau cysylltiedig undebau, a mwyafrif llethol – 84% – o’r 105,000 o gefnogwyr newydd a gofrestrodd am £3.

Gorymdeithio dros y ffoaduriaid

Yn ei araith wrth gael ei ethol, dywedodd Jeremy Corbyn mai ei orchwyl cyntaf fel arweinydd fydd annerch gorymdaith yn Llundain y prynhawn yma i alw am well cefnogaeth i ffoaduriaid.

“Mae ein plaid wedi newid yn aruthrol dros y tri mis diwethaf, ac rydym yn gryfach nag rydym wedi bod ers amser maith,” meddai.

“Gadewch inni fod yn rym dros ddynoliaeth, cyfiawnder, tegwch a heddwch yn y byd.”

Dywedodd ei fod yn estyn croeso gwresog i aelodau newydd, yn enwedig yr holl bobl ifanc sydd wedi ymuno.

“Croeso i’n plaid a chroeso i’n mudiad – ac i gyn-aelodau, croeso’n ôl chroeso adref,” meddai.

“Mae pobl wedi bod yn rhy barod i ddiystyru barn pobl ifanc gan honni nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond mae’r misoedd diwethaf wedi profi nad yw hyn yn wir.

“Mae’n pobl ifanc ni’n genhedlaeth wleidyddol iawn.”

Teyrnged i Carwyn Jones

Talodd deyrnged i amryw o’i gyd-wleidyddion Llafur, gan gynnwys Harriet Harman am ei gwasanaeth fel arweinydd dros dro, a’r cyn-arweinydd Ed Miliband. Cafodd gymeradwyaeth fawr wrth feirniadu’r ffordd y cafodd Ed Miliband ei drin gan y wasg a’r cyfryngau.

Talodd deyrnged hefyd i’w gyd-ymgeiswyr, gan ddiolch yn arbennig i Liz Kendall am ei chyfeillgarwch.

“Er inni anghytuno ar lawer o bynciau, mae’n haeddu clod a pharch am ei pharodrwydd i siarad dros yr hyn y mae hi’n ei gredu,” meddai.

Talodd deyrnged hefyd i Carwyn Jones.

“Wrth arwain Cymru, mae’n gwneud gwaith rhagorol wrth gael gwared ar y farchnad fewnol yn y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.