Stephen Crabb
Fe fydd buddsoddiad gan gwmnïau o Israel yn creu 100 o swyddi ac yn rhoi hwb o £13 miliwn i economi Cymru.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth i ddirprwyaeth o Israel ymweld â Chymru.

Cydweithio rhwng Llywodraeth Prydain drwy UKTI Israel a Llywodraeth Cymru sydd wedi sicrhau’r buddsoddiad sylweddol.

Mae cwmni SPTS Technologies yng Nghasnewydd wedi cyhoeddi bod ei allforion bellach yn werth dros $1 biliwn ac ers mis Awst y llynedd, fe fu’r cwmni o dan arweiniad cwmni o Israel sydd ar restr NASDAQ.

Swyddi ymchwil a datblygu 

Derbyniodd y cwmni £4.6 miliwn o gyllid Ymchwil Datblygu ac Arloesedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect tair blynedd i feithrin y genhedlaeth nesaf o gynnyrch ar gyfer deunyddiau Pecynnu Uwch.

Bydd hynny’n creu 30 o swyddi ymchwil a datblygu llawn amser yng Nghasnewydd, a bydd £13 miliwn yn cael ei wario gyda chyflenwyr lleol.

Yr ail gwmni yw Sapiens International Corporation, sy’n ddarparwr arloesol o ddatrysiadau meddalwedd ar gyfer y diwydiant yswiriant.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi 240 o bobol yn y DU, a’u bwriad yw cynyddu’r gweithlu yng Nghaerdydd yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae cwmni systemau dŵr Amiad Water Systems wedi cadarnhau eu bod nhw’n symud i Abertawe, ac mae disgwyl iddyn nhw greu pump i 10 o swyddi newydd yn ystod y flwyddyn gyntaf yng Nghymru.

Mae cwmni Lordan UK wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £1 miliwn yn ei gyfleuster yn Hengoed i gynhyrchu cyfnewidwyr gwres tiwb a ffin.

Mae’r cwmni’n cyflogi 45 o bobol yng Nghymru.

‘Cymru yn  gyrchfan deniadol i fusnesau’ 

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: “Mae ein sector technoleg arloesol yn helpu i ddenu buddsoddiad tramor a chreu swyddi yng Nghymru.

“Drwy rwydwaith masnach fyd-eang Llywodraeth y DU, mae buddsoddwyr rhyngwladol yn sylweddoli bod Cymru yn wlad allblyg ac yn gyrchfan deniadol i fusnesau. Mae Israel yn ffrind agos i’r DU ac rydym yn mwynhau perthynas fasnachu wych sy’n seiliedig ar ddegawdau o gydweithio.”

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Rydw i’n falch iawn gweld bod Cymru yn lleoliad deniadol ar gyfer cwmnïau technoleg uwch o Israel, a’n bod yn gweld buddsoddiadau newydd yn ogystal â buddsoddiadau parhaus sylweddol.”