Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty yn dilyn tân  mewn tŷ yng Nghastell Newydd Emlyn y bore ma.

Fe ddechreuodd y tân am 4.55yb ddydd Llun yn ardal Bryngwyn a dywed Heddlu Dyfed Powys bod y tŷ wedi cael ei ddifrodi’n llwyr yn y tân.

Cafodd y dyn, sydd yn ei 60au, ei drin gan barafeddygon cyn cael ei gludo i Ysbyty Treforys ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Mae’r heddlu wedi cau’r safle o amgylch y tŷ, gan ei fod yn dal i fudlosgi, ac mae’r ffordd wedi’i chau er mwyn sicrhau diogelwch pobl yn yr ardal.

Fe fydd y ffordd yn parhau ynghau am y tro a nes bod ymchwiliadau’r heddlu wedi’u cwblhau.