Alison Jones (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru’n apelio am gymorth i ddod o hyd i Alison Jones, 53 oed.

Does neb wedi’i gweld ers iddi adael ei chartre’ yn Llanhari, Pontyclun, tua 7yh neithiwr (nos Fercher).

Mae disgrifiad yn dweud ei bod yn 5 troedfedd 6 modfedd o daldra, o gorffolaeth ganolig gyda gwallt melyn a llygaid glas.

Neithiwr, roedd hi’n gwisgo siwmper hwdi ddu a gwyn, jîns o liw tywyll, a thrênars gwyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar y rhif ffôn 101.