Mae gyrrwr y lori ludw a laddodd chwech o bobol mewn damwain yn Glasgow ar Ragfyr 22 y llynedd, wedi gwrthod ateb cyfres o gwestiynau yn yr ymchwiliad i’r damwain.
Dechreuodd Harry Clarke, 58, roi tystiolaeth yn Llys Siryf Glasgow ar ôl i gynnig gan ei gyfreithiwr i ohirio’r ymchwiliad gael ei wrthod.
Ond, ar ôl cymryd y llw, dywedodd Siryf John Beckett QC wrth Harry Clarke dro ar ôl tro nad oedd rhaid iddo ateb unrhyw gwestiynau a allai daflu bai arno.
Er bod Mr Clarke wedi ymateb i rai o’r cwestiynau a ofynnwyd iddo, gwrthododd ateb bron pob un o’r cwestiynau ofwynnwyd yng nghamau cynnar ei dystiolaeth – gan gynnwys am ddiwrnod y ddamwain ei hun.
Fe wnaeth y Siryf rhybuddio Harry Clarke am roi tystiolaeth gan y gallai’r gyrrwr dal wynebu erlyniad preifat a ddygwyd gan deulu un o’r dioddefwyr .
Mae hynny’n rhoi’r hawl iddo beidio ag ateb cwestiynau penodol os yw’n dewis.