Mae tri o ddiffoddwyr tân wedi marw, wedi i’w cerbyd fynd ar dân wrth iddyn nhw geisio diffodd y fflamau yn nhalaith Washington.

Mae pedwar ymladdwr arall wedi’u hanafu, wrth i nifer o griwiau gael eu galw i ymladd y tanau yng nghanolbarth gogledd y dalaith.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol ger tre’ Twisp.