Mae merched yn gwneud yn well na bechgyn yn harholiadau
TGAU am nad ydyn nhw mor debygol o adael eu gwaith cwrs tan y funud olaf, yn ôl pennaeth un undeb athrawon.
Yn ôl y canlyniadau gafodd eu cyhoeddi heddiw ar draws Prydain fe gafodd 73.1% o ferched radd C neu uwch o’i gymharu â 64.7% o fechgyn.
Mae’n golygu bod bwlch o 8.4 pwynt canran rhwng cyrhaeddiad merched a bechgyn yn y graddau A*-C, ond dyma’r tro cyntaf ers 2010 i’r bwlch hwnnw leihau.
Fodd bynnag mae ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL), Brian Lightman, wedi dweud bod angen i ysgolion edrych eto ar sut i annog a gwella perfformiad bechgyn.
Gwaith cwrs
Mae ymchwil eisoes yn awgrymu bod merched yn gyffredinol yn gwneud yn well mewn asesiadau rheoledig a gwaith cwrs tra bod bechgyn yn tueddu i berfformio’n well mewn arholiadau.
Yn ôl Brian Lightman, mae tanberfformiad bechgyn yn digwydd oherwydd eu bod nhw’n “tueddu i wneud pethau ar y munud olaf” ac mae angen i’r ysgol fod yn “cadw’r pwysau arnyn nhw” i gwblhau gwaith.
“Maen nhw [athrawon] wedi defnyddio strategaethau – mae lot o ymchwil wedi cael ei wneud i strategaethau effeithiol ar gyfer annog bechgyn a helpu nhw i gyflawni’n well,” meddai.
“Yr elfen arall o bethau yw’r gwaith cwrs achos roedd merched yn gwneud yn well ar y gwaith cwrs.
“Roedd gwaith cwrs yn siwtio’r ffordd mae merched yn gweithio yn llawer gwell, fe fyddan nhw’n treulio mwy o amser gartref yn gweithio ar waith cwrs na bechgyn, sydd yn tueddu i ruthro pethau mwy – mae’r rhain yn sylwadau cyffredinol iawn.”