Andrew Lee Thomas Jones (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae dyn a fu farw mewn damwain ffordd ym Mhort Talbot nos Sul wedi’i enwi. Roedd Andrew Lee Thomas James yn dod o Penrhiw-fer yn y Rhondda.

Dywedodd ei deulu, mewn datganiad, fod Andrew yn hoffi hwyl a’i fod “wedi dotio” ar ei ddau o blant.

Digwyddodd y ddamwain tua 9.55yh ar Ffordd Afan, pan fu car Suzuki Ignis arian mewn gwrthdrawiad â Ford Focus du.

Roedd Andrew Lee Thomas James, 26, yn gyrru’r Suzuki Ignis. Mae tri o deithwyr y ddau gerbyd yn parhau i gael eu trin yn yr ysbyty.

“Mae ei farwolaeth wedi gadael gwagle enfawr yn ein bywydau na ellir byth ei lenwi. Bydd colled gan bawb oedd yn ei adnabod,” meddai’r teulu.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad.