Yr Wyddfa - rhif 181 ar restr 500 o lefydd y byd
Mae saith lle yng Nghymru wedi cael eu henwi mewn rhestr o lefydd yn y byd sy’n rhaid ymweld â nhw, ochr yn ochr â rhai o safleoedd treftadaeth mwyaf mawreddog y byd.

O’r 500 lle sydd wedi cael eu henwi gan wefan deithio LonelyPlanet, mae’r Wyddfa yn rhif 181, pentref Eidaleg Portmeirion yn 207, ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 294.

Yn ogystal, daeth Castell Caernarfon yn 315, Bannau Brycheiniog yn 365, Abaty Tyndyrn yn 373 ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn 431.

Dywedodd LonelyPlanet fod Yr Wyddfa wedi cael ei enwi oherwydd ei harddwch tra bod Portmeirion wedi ei gwneud hi ar y rhestr oherwydd ei fod yn le hudolus er “ychydig yn od”.

Cafodd 34 o lefydd yn y DU eu henwi ar y rhestr gyda’r Amgueddfa Brydeinig yn cyrraedd y 15ed safle.

Temlau Angkor yn Cambodia gyrhaeddodd frig y rhestr gyda’r Great Barrier Reef yn Awstralia yn ail a Machu Picchu yn Peru yn drydydd.