Mae heddiw, Diwrnod VJ, yn un emosiynol iawn i un criw o gyn-filwyr, gan mai dyma’r tro olaf y byddan nhw’n ei gofio gyda’i gilydd.

Mae cangen Caerdydd o Gymdeithas Seren Byrma wedi gweld nifer yr aelodau’n gostwng i dan 10, ac mae’r aelodau sy’n weddill bellach yn eu 90au, a’r mwyafrif o’r rheiny mewn cartrefi gofal.

Mae swyddogion yr Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi mai dyma’r tro ola’ y bydd y grwp yn cynnal ei wasanaeth blynyddol yn Eglwys St Ioan, cyn rhoi’r gorau iddi. Ond fe fydd y faner ddu ac aur sydd wedi bod yn cael ei chario yn ystod gorymdaith flynyddol, yn cael ei rhoi i orffwys ger ffenest liw arbennig sy’n cynnwys Seren Byrma.

Roedd yr ymgyrch yn Byrma (Myanmar erbyn hyn) yn un o frwydrau hiraf a mwya’ gwaedlyd yr Ail Ryfel Byd, ac fe fu bron i 71,000 o filwyr o Brydain a’r Gymanwlad gael eu lladd neu eu hanafu yno.