Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru
Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn lawnsio ymgyrch heddiw i dynnu sylw at rym y Ddeddf Hawliau Dynol wrth hyrwyddo hawliau LGBT.

Bydd y blaid yn manteisio ar ddigwyddiad Pride Cymru – y digwyddiad LGBT mwyaf yng Nghymru – i wrthwynebu cynlluniau’r Ceidwadwyr yn San Steffan i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Yn unol â’r Ddeddf Hawliau Dynol, fe gyflwynodd Llywodraeth Prydain y Ddeddf Cydnabod Cenedl.

Yn 1997, daethpwyd i’r penderfyniad fod oedran caniatâd gwahanol ar gyfer cyplau o’r un rhyw yn anghyfartal, ac fe gafodd pobol LGBT+ yr hawl yn 1999 i wasanaethu’r lluoedd arfog.

Fe fu’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn ymgyrchu’n ddiweddar i wella gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobol draws-ryw yng Nghymru, ac i sefydlu Clinig Hunaniaeth Cenedl yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Hawliau dynol yw hawliau LGBT+ – ni allai fod yn fwy syml.

“Mae hawliau unrhyw berson o unrhyw rywedd neu genedl – i ryddid barn, diogelwch rhag neilltuo, i fywyd ei hun – yn union yr un fath â hawliau unrhyw un arall.

“Mae deddfau hawliau dynol wedi bod yn hanfodol wrth warchod pobol LGBT+ rhag cael eu neilltuo gan y gyfraith.

“Hebddyn nhw, fe allai fod gennym ni o hyd oedran anghyfartal o ran caniatâd ar gyfer perthnasau o’r un rhyw, ni fyddai gan bobol drawsryw yr hawl i newid eu rhyw, ac ni fyddai gan bobol LGBT+ yr hawl i wasanaethu’r lluoedd arfog yn agored.

“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol wedi gwneud newidiadau positif i gymuned LGBT+ ein gwlad ni.

“Dyna pam dw i mor atgas am gynlluniau’r Torïaid i ddiddymu’r deddfau hyn a dileu’r amddiffynfeydd hyn.”