Trawma i’r pen o ganlyniad i gwympo oedd wedi achosi marwolaeth y gantores a’r gyflwynwraig deledu Cilla Black.

Cafodd ei chwest ei gynnal yn Lerpwl heddiw.

Bu farw Cilla Black yn 72 oed yn ei chartref gwyliau yn Sbaen ar Awst 1.

Roedd ei meibion Ben, Robert a Jack yn llys y crwner ar gyfer y gwrandawiad.

Wrth annerch y tri, dywedodd y crwner: “Roedd hi’n fam i chi ac mae ei marwolaeth yn fater personol a phreifat a dim ond un fam sydd gyda ni i gyd.

“Mae hi’n iawn eich bod chi’n galaru ac yn ei chofio hi.”

Cafodd ei marwolaeth ei chofnodi gan y crwner fel un ddamweiniol.