Yr Old Bailey (CCA 3.0)
Mae rheithgor yn ystyried eu dyfarniad yn achos cwpwl o Abertawe sydd wedi eu cyhuddo o weithred rywiol ynghanol tyrfa mewn cyngerdd gan Radio 2 yn Hyde Park.

Mae Lisanne Beck, 47, a Simon Murphy, 48, yn gwadu cyhuddiad o sarhad ar wedduster cyhoeddus ym mis Medi y llynedd.

Fe glywodd rheithgor yn yr Old Bailey yn Llundain fod y ddau wedi cael eu ffilmio ar ffôn symudol yn ystod y cyngerdd teulol.

Mae’r erlyniad yn honni bod Lisa Beck, sy’n weinyddes groeso, wedi cael rhyw gyda’r geg ar Simon Murphy pan oedd yn gorwedd ar y ddaear.

Mae hi’n gwadu hynny, gan ddweud ei bod wedi ei ysgwyd i’w ddeffro er mwyn ei helpu i fynd i’r tŷ bach, gan fod ganddo drafferthion gyda’i stumog.

Manylion yr honiad

Roedd plismon heb fod ar ddyletswydd ymhlith y bobol a welodd y digwyddiad, yn ôl yr erlyniad. Roedd yn meddwl bod Simon Murphy, sy’n arddwr, yn cysgu.

Roedd swyddogion diogelwch wedi eu galw a’r ddau wedi eu taflu o’r cyngerdd.

Roedd Lisa Beck wedi dweud wrth y llys ei bod yn gymharol feddw wedi yfed seidr a chymysgedd o fodca a chola.

Doedd Simon Murphy ddim wedi rhoi tystiolaeth ond, pan gafodd ei holi gan yr heddlu, wedi dweud nad oedd yn ymwybodol fod dim amhriodol wedi digwydd.