Mae’r nifer sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng i 90,000 – 9,000 yn llai na’r chwarter cynt.

Fe fu cynnydd o 42,000 yn y bobol mewn gwaith yn y tri mis diwetha’ , mwy nag yn unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig.

Cynyddodd nifer y bobol ddi-waith ar draws Prydain o 25,000 rhwng Ebrill a Mehefin i 1.85 miliwn.

Dangosodd y ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd bod nifer y bobol sy’n ddi-waith yng Nghymru yn 5.9% – yr un peth â’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig o 5.9%.

Llafur a’r Ceidwadwyr yn hawlio clod

Mae’r ffigurau, yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn cadarnhau bod cynllun economaidd y Ceidwadwyr yn gweithio i bobol Cymru.

“Mae gyda ni fwy o bobol mewn gwaith nag erioed o’r blaen ac mae nifer y bobol ifanc sy’n ddi-waith yn parhau i ddisgyn,” meddai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae ffigurau heddiw yn dangos bod cyflogaeth Cymru yn well nag erioed ac rydym yn perfformio’n well nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

“Dros y chwarter olaf rydym wedi gweld 42,000 yn fwy o bobol mewn gwaith yng Nghymru o’i gymharu gyda llai mewn gwaith yn y Deyrnas Unedig dros yr un cyfnod.”

Dyma “newyddion da” yn ôl llefarydd economi’r Democratiaid Cymreig, Eluned Parrot, yn dilyn “ffigurau sâl am sawl mis”.