Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu bwriad Archfarchnad Morrsons i werthu brand newydd o laeth sy’n rhoi 10 ceiniog y litr yn fwy ym mhocedi ffermwyr.

“Mae prisiau llaeth wedi disgyn yn eithafol dros y misoedd diwethaf ac mae hyn wedi achosi pwysau anferth ar ffermydd llaeth teuluol yng Nghymru,” meddai Dei Davies, o Bwyllgor Llaeth a Chynnyrch yr FUW.

Fe fyddai’r brand newydd yn rhoi’r cyfle i gwsmeriaid wneud dewis “moesegol”, meddai.

‘Masnach deg’

Mae’r brand Llaeth i Ffermwyr yn golygu y bydd potel pedwar peint (2.27 o litrau), sy’n gwerthu am 89c, nawr yn costio 23c yn yn fwy.

Dywedodd Dei Davies bod yr FUW yn annog siopwyr i gefnogi ffermydd Prydeinig drwy gefnogi’r brand newydd.

Roedd yn ei gymharu i gynnyrch masnach deg Prydeinig gan ddweud bod yr undeb yn hyrwyddo’r syniad o “bris teg am gynnyrch teg”.

Er hynny, meddai, mae 80% o laeth Cymru’n mynd at wneud caws ac roedd pris cynhyrchion o’r fath hefyd yn effeithio ar incwm ffermwyr.