Neuadd y Ddinas - y cyngor yn penderfynu erlyn
Mae cyngor sir wedi croesawu penderfyniad llys i gosbi perchnogion cartref gofal ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu peidio â dod ag achos yn eu herbyn.

Fe ddaeth Cyngor Dinas Caerdydd at achos yn erbyn perchnogion Cartref Gofal Pontcanna House ar ôl i wraig oedrannus gael ei lladd mewn damwain lifft.

Roedd un o’r gweithwyr yn y cartref hefyd wedi cael anafiadau difrifol iawn yn y digwyddiad ym mis Mawrth 2012.

Ddoe fe gafodd y perchnogion –  Mr a Mrs Dr Al-Mufti  – ei cosbi gyda dirwy o £75,000 a £25,000 mewn costau ar ôl pledio’n euog i ddau gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Y digwyddiad

Fe gafodd May Lewis, 96, ei lladd pan ar ôl iddi hi ac un o’r gofalwyr, Carol Conway, gwympo i lawr pydew lifft yn y cartref.

Roedden nhw wedi mynd i mewn wysg eu cefnau, gyda May Lewis mewn cadair olwyn, heb sylweddoli nad oedd y lifft yno a’i fod wedi ei gau oherwydd problemau technegol.

Yn ôl yr erlynwyr, Cyngor y Ddinas, y broblem oedd fod allwedd argyfwng yn cael ei defnyddio’n gyson i agor drysau’r lifft, gan osgoi rhai o drefniadau diogelwch yr offer.

Bu farw May Lewis yn fuan wedi’r digwyddiad a chafodd Carol Conway anafiadau oedd wedi peryglu ei bywyd.

Dwyn yr achos

Wrth ddwyn yr achos, dywedodd Cyngor Caerdydd fod Mr a Mrs Dr Al-Mufti yn gyfrifol am ddiogelwch eu staff a’u trigolion, er eu bod yn derbyn nad oedd y ddau wedi annog y defnydd o’r lifft.

Roedd eu hystyriaeth o iechyd a diogelwch, meddai’r Cyngor, yn is o lawer na’r disgwyl, roedden nhw wedi anwybyddu rhybuddion i beidio â defnyddio’r allwedd argyfwng ac roedd prinder asesiadau risg a hyfforddiant i staff.

Ar ddiwedd yr achos, mynegodd y Cyngor gydymdeimlad â theulu May Lewis, gan ddymuno’n dda i Carol Conway.

“Mae hwn yn achos trasig y penderfynodd y Cyngor erlyn yn ei gylch, ar ôl penderfyniad y Gwasanaeth Erlyn i beidio â dwyn yr achos,” meddai’r Cynghorydd Daniel De’Ath, yr aelod o gabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Sgiliau, Diogelwch a Democratiaeth.