Prifysgol Bangor
Mae tair o brifysgolion Cymru wedi cyrraedd safleoedd uchel yn rhestr boddhad myfyrwyr … ond mae’r gweddill tua’r gwaelodion.
Fe lwyddodd tair o’r hen brifysgolion traddodiadol – Bangor, Abertawe a Chaerdydd – i sgorio 90% neu fwy, tra bod y bedwaredd, Aberystwyth, ar 83% ac allan o’r 100 ucha’.
Ar gyfartaledd, mae prifysgolion Cymru’n sgorio un pwynt yn llai na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain yn Arolwg Boddhad Myfyrwyr 2015 sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Canlyniadau Cymru
Prifysgolion Abertawe (91%) a Bangor (91%) sydd uchaf ar y rhestr o blith y prifysgolion Cymreig – yn safle rhif 13. O ddiystyru prifysgolion arbenigol, maen nhw yn y deg uchaf ac yn gyfartal gyda Phrifysgol Rhydychen.
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhif 21 gyda 90% ond mae’r gweddill yn llawer is:
Prifysgol Aberystwyth – 83% – 111.
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd – 83% – 111.
Prifysgol Glyndŵr – 80% – 141.
Prifysgol Y Drindod Dewi Sant – 79% – 147
Prifsgol De Cymru – 79% – 147.
Coleg Cerdd a Drama – 78% – 153
Mae’r arolwg yn mesur addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygu datblygiad personol a chymerodd 300,000 o fyfyrwyr ran yn yr arolwg.
Mae boddhad cyffredinol ar draws y prifysgolion wedi aros yn gyson. Fe fu gwelliannau o ran undebau myfyrwyr; adnoddau dysgu; dysgu, asesu ac adborth; trefniadaeth a rheolaeth; cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.
Manylion cyrsiau
- Mae Bangor ar frig tablau’r Deyrnas Unedig mewn chwe phwnc ac ar y brig yng Nghymru mewn 12 o bynciau.
- Mae hi hefyd yn y deg uchaf mewn 19 o’r 39 o feysydd pwnc y Brifysgol ac Abertawe yn y deg uchaf mewn 18 o 41.
- Mae hi ar y brig mewn pedwar pwnc – geneteg, astudiaethau cyfryngau, technoleg feddygol ac astudiaethau hanesyddol ac athronyddol ac yn y pump uchaf am wyth pwnc ychwanegol.
- Mae boddhad ym Mhrifysgol Caerdydd yn uwch nag erioed ac maen nhw’n drydydd ymhlith 24 prifysgol Grŵp Russell.
Ymateb y prifysgolion
“Mae hwn yn ganlyniad gwych i fyfyrwyr Abertawe ac mae’n dyst i’r gwelliannau mae’r myfyrwyr yn eu gweld o ddydd i ddydd ym Mhrifysgol Abertawe,” meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Abertawe, Lewys Aron.
“Yn ogystal â’i hanes hir o ragoriaeth academaidd, mae gan Fangor enw da am ddarparu addysgu a chefnogaeth o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, a’r canlyniadau gwych hyn yn dyst i hynny,” meddai’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor – Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’n amlwg fod lle i ddathlu’r ffaith fod bron i chwarter ein pynciau gradd â chanran boddhad o 100%, ac felly hefyd ein sgôr boddhad cyffredinol o 91%, sy’n ein gosod ni’n gyfartal â Phrifysgol Rhydychen, ac ar safle uwch na phob un arall o Sefydliadau Grŵp Russell.”