Ted Heath tua chyfnod yr honiadau (Allan Warren CCA 3.0)
“Dyn hoyw swil” ac nid “pedoffeil” oedd y cyn-Brif Weinidog, Ted Heath, yn ôl cyfweliad mewn papur newydd.

Mae’r ddynes 67 oed sydd ynghanol sgandal cam-drin plant am y gwleidydd wedi dweud  wrth bapur newydd y Sun ei bod wedi trefnu rhyw gyda dynion ar ei gyfer, ond nad oedd dim sôn am blant.

Fe ddywedodd y cyn-berchennog puteindy, Myra Ling Ling Forde, ei bod yn sicr y byddai ymchwiliadiau gan saith heddlu gwahanol yn clirio enw’r gwleidydd.

Mae hi wedi gwadu honiadau cynharach ei bod wedi bygwth datgelu gwybodaeth am Edward Heath a phlant er mwyn osgoi cael ei erlyn.

Mae Heddlu Wiltshire yn ymchwilio i’r honiadau hynny hefyd.

‘Dynion nid plant’

“Ro’n i’n adnabod Edward Heath yn nechrau’r 1990au ac fe wnes i ddarparu dynion ifanc ar ei gyfer,” meddai May Ling Ling Forde wrth y Sun. “Ond doedd ganddo ddim diddordeb mewn rhyw gyda phlant.

“Roedd jyst yn ddyn hoyw cyfrinachol a swil iawn. Roedd yn amhosib i rywun yn ei safle fe fod yn agored hoyw ar y pryd, felly fe ddaeth ata’ i.”

Roedd y cyswllt cynta’, meddai, wedi bod trwy hysbyseb mewn papur newyd yn ardal Salisbury ble’r oedd Ted Heath yn byw.