Alec Warburton (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi agor ymchwiliad llofruddiaeth, wedi diflaniad dyn 59 oed o Abertawe.

Does neb wedi gweld Alec Warburton ers Gorffennaf 31.

Mae’r heddlu’n awyddus iawn i siarad ag un o denantiaid Alec Warburton, David Ellis, yn y cyfeiriad yn Ffordd Vivian lle’r oedden nhw’n byw.

Maen nhw’n credu y gallai Mr Ellis fod â gwybodaeth a allai fod o gymorth mawr i’r ymchwiliad.