Ceri Ann Gittins
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i fam a’i thri o blant.

Does neb wedi gweld Ceri Anne Gittins, 29, ers tua 3yp ddydd Llun, Awst 10, a’r gred yw eu bod hi wedi gadael Wrecsam a’r ardal gyda’i thri o blant, Alisa, Sean a Bradley Edwards.

Mae’r fam wedi’i disgrifio fel dynes fain, 5 troedfedd 3 modfedd o daldra, gyda gwallt du at ei hysgwydd.

Mae ei merch, Alisa yn 12 oed; ei mab, Sean, yn 11 oed; a’r ail fab, Bradley, yn 10 oed.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ffonio’r Heddlu ar y rhif 101.