Fe fydd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) yn cynnig cyngor ynglyn â sut y gall ffermwyr a gweithwyr cefn gwlad fod yn saff wrth eu gwaith.

Ar drothwy Sioe Bro Forgannwg fory, mae llywydd NFU Cymru, Stephen James, yn dweud bod diogelwch gweithwyr fferm “ymhlith y sialensau mwyaf” sy’n wynebu amaethyddiaeth.

“Mae ffermwyr yn wynebu rhai o’r risgiau uchaf, gyda gweithwyr yn ymgymryd â thasgau, ac yn gweithio ar eu pen eu hunain, gan weithio yn erbyn y cloc mewn amodau tywydd gwael.”

Yn ôl Stephen James, mae angen codi ymwybyddiaeth am beryglon gweithio ar y fferm.

“Mae NFU Cymru wedi ymrwymo i gynyddu ymwybyddiaeth o’r peryglon posib a hyrwyddo arferion diogelwch ar ffermydd ac fe rydym wedi cynhyrchu teclynnau arogl da ar gyfer tractorau gyda negeseuon allweddol iechyd a diogelwch er mwyn gostwng y peryglon wrth drin periannau fferm, bydd y rhain ar gael ar ein stondin yn y sioeau amaethyddol a dwi’n galw ar unrhyw un i fachu un.

“Y brif neges, wrth gwrs, yw i stopio a pwyllo.”