Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi ail-adrodd ei alwad i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sioeau.
Daw galwad aelod seneddol Plaid Cymru ar drothwy ymweliad dadleuol sioe lewod a theigrod â Chaernarfon, sydd i’w chynnal rhwng Awst 13 – 22. Mae’r sioe newydd orffen cyfnod o bythefnos ym Mae Penrhyn, Conwy, lle cafwyd deiseb gyda dros 63,000 o enwau yn gwrthwynebu ei hymweliad â’r sir.
Dywedodd Hywel Williams fod angen gwahardd cludo anifeiliaid gwyllt, “Mae’r dyddiau o gludo anifeiliaid gwyllt yng nghefn loriau o gwmpas trefi a phentrefi wedi hen ddod i ben. Dengys ymgynghoriad gan y Llywodraeth fod 94% o’r cyhoedd yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y fath sioeau.”
Mae’n galw ar Prif Weinidog i gyflwyno gwaharddiad ar unwaith, meddai, “Mae’n ddyletswydd ar y Prif Weinidog gadw at ei air a chyflwyno’r gwaharddiad heb unrhyw oedi pellach, gan wireddu un o addewidion Maniffesto’r Ceidwadwyr.”
Dim grym lleol
Yn ôl Hywel Williams, mae’r sioe sy’n ymweld â Chaernarfon wedi ei thrwyddedu yn ne ddwyrain Lloegr, sef cartref parhaol y cwmni.
Nid oes gan awdurdodau lleol y grym i wahardd syrcasau ar dir preifat, fel yr eglurodd, “Mae gan Gyngor Gwynedd bolisi hir-sefydlog o wrthod caniatad i gynnal y fath sioeau ar eu tir nhw. Ond gan fod y sioe yma yn cael ei chynnal ar dir preifat, does gan y Cyngor ddim grym i’w gwahardd.”
Mae Hywel Williams y bydd y cyhoedd yn cadw draw oddi wrth y syrcas, “Mae’r Cyngor wedi fy sicrhau eu bod am ddefnyddio y pwerau sydd ganddynt i sicrhau llês yr anifeiliaid a diogelwch y cyhoedd. Hyderaf y bydd pobl leol ynghyd ag ymwelwyr i’r ardal yn cadw draw a gwrthod cefnogi’r sioe yma.”
Mae Hywel Williams wedi rhoi ei enw i gynnig swyddogol traws-bleidiol yn y Senedd sy’n galw ar y Llywodraeth i gadw at eu hymrwymiad Maniffesto i ddod a gwaharddiad i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol.