Awyren di-beilot
Fe fydd pedair o fenywod fu’n protestio yn erbyn arbrofi awyrennau di-beilot ar lanfa maes awyr ym Meirionnydd yn ymddangos yn y llys heddiw.
Mae Sian ap Gwynfor, Anna Jane, Angharad Tomos ac Awel Irene wedi’u cyhuddo o achosi difrod troseddol.
Daw eu hymddangosiad gerbron Llys Ynadon Dolgellau ar y diwrnod y bydd maes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn cofio 70 mlynedd ers gollwng bom atomig dros Hiroshima yn Siapan.
Y llynedd, aeth y pedair ati i baentio slogan ‘Dim Adar Angau’ ar lanfa maes awyr Llanbedr ym Meirionnydd fel rhan o ymgyrch Cymdeithas y Cymod.
Daeth cadarnhad ym mis Hydref 2014 fod cwmni QinetiQ a Llanbedr Airfield Estates am ddefnyddio’r maes awyr i gefnogi profion ar awyrennau di-beilot.
Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi talu i wella’r safle i safonau’r Awdurdod Hedfan Sifil.
Mae’r protestwyr yn gofidio bod gorllewin Cymru’n prysur ddod yn ardal i gynnal arbrofion o’r fath.
‘A Oes Heddwch?’
Dywedodd Angharad Tomos: “Roedd yn rhaid inni weithredu i dynnu sylw at y sefyllfa.
“O’r 400 o fomiau a ollyngwyd ar Afghanistan gan Brydain, roedd 80% yn fomiau o drones.
“Gwrthwynebwn fod tir Cymru yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi lladd. Rydym angen swyddi fydd yn cynnal pobol, nid yn hyrwyddo’r busnes o’u lladd.”
Nid dyma’r tro cyntaf i rai o’r merched hyn wynebu llys.
Roedd Sian ap Gwynfor wedi gweithredu yn Greenham a Byncar Caerfyrddin yn ystod y 1980au, ac Awel Irene wedi gweithredu yn Molesworth.
Bydd criw yn teithio o faes yr Eisteddfod ym Meifod i’r llys i gefnogi’r pedair.
Ychwanegodd Angharad Tomos: “70 mlynedd wedi Hiroshima, mae’r ymgyrch yn erbyn arfau mor berthnasol ag erioed. Wrth ateb y cwestiwn ‘A Oes Heddwch?’ ym Meifod, mae angen ystyried gwir oblygiadau drones ar bobl ddiniwed yn ein byd ”