Robert Mansfield
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ddyn 18 oed y cafwyd hyd i’w gorff mewn llyn yn Sir Benfro yn gynnar fore dydd Llun.
Roedd Robert Mansfield o Benfro wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed pan aeth i drafferthion yn Llyn y Felin ym Mhenfro.
Daeth Heddlu Dyfed Powys o hyd i’w gorff tua 2.40yb ddydd Llun.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu ei fod wedi treulio’r diwrnod cynt yn mwynhau gyda theulu a ffrindiau wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 18 oed.
“Roedd Rob yn fachgen cariadus a gofalus a oedd yn addoli ei nain ac yn helpu i ofalu am ei daid, Tom. Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”