Robert Ewing
Mae pedoffeil wedi cael ei garcharu am isafswm o 33 mlynedd am lofruddio merch 15 oed yn 2007.

Roedd Robert Ewing wedi “cymryd mantais” o Paige Chivers o Blacpwl cyn penderfynu ei thawelu ar ôl iddi fygwth mynd at yr heddlu.

Yn gynharach y mis hwn roedd rheithgor yn Llys y Goron Preston wedi cael Ewing, 60 oed, yn euog o’i llofruddio ond nid oeddan nhw wedi cael gwybod ei fod wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plant yn y gorffennol.

Roedd Ewing wedi treulio 12 mis yn y carchar ym 1995 ar gyhuddiad o anweddustra dybryd ac ymosodiad anweddus ar ferch 13 oed.

Wrth ei ddedfrydu i garchar am oes dywedodd Mr Ustus Jeremy Baker bod Ewing wedi cynllwynio i lofruddio Paige Chivers er mwyn osgoi mynd yn ôl i’r carchar.

Corff heb ei ddarganfod

Nid yw ei chorff erioed wedi cael ei ddarganfod, wyth mlynedd ers iddi ddiflannu.

Roedd Paige Chivers wedi gadael ei chartref yn Bispham ar 23 Awst 2007 ar ôl ffrae gyda’i thad, a oedd yn gaeth i alcohol. Roedd ei mam wedi marw ychydig fisoedd cyn hynny.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw cafodd ei gweld ger safle bws gyda Ewing ond nid yw wedi cael ei gweld ers hynny.

Roedd Ewing wedi ei llofruddio rywbryd rhwng 23 a 27 Awst ac wedi perswadio ei ffrind Gareth Dewhurst, 46, i ddefnyddio ei gar i gael gwared a’i chorff.

Cafodd Dewhurst, o Heol Duncan, Blacpwl, ei garcharu am saith mlynedd am roi cymorth i droseddwr a blwyddyn ychwanegol am fwriadu i wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy godi ofn ar dystion.

Cafwyd Ewing o Kincraig Place, Blacpwl hefyd yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy godi ofn ar dystion a rhoi gwybodaeth ffug i’r heddlu.

Roedd y ddau ddyn wedi gwadu’r cyhuddiadau.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi’u hymrwymo i ddod o hyd i gorff Paige Chivers.