Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i leihau baich y newidiadau lles sy’n cael effaith ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru.
Clywodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a darparwyr cyngor.
Mae wedi llunio 17 argymhelliad y mae’n credu y bydd yn gwella ymateb Llywodraeth Cymru i newidiadau yn y dyfodol ac yn sicrhau bod Cymru wedi paratoi’n well o ran rhagweld eu heffaith.
‘Goblygiadau sylweddol’
Esboniodd Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor bod yr adroddiad yn trafod goblygiadau polisi sydd heb ei ddatganoli a’i effaith ar wasanaethau datganoledig.
Meddai Darren Millar: “Mae lleihau’r gost gyffredinol sydd ynghlwm wrth les wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth San Steffan wrth leihau’r diffyg cyhoeddus, ac mae hynny wedi arwain at newidiadau sylfaenol i’r system fudd-daliadau a goblygiadau sylweddol i’r sector tai yng Nghymru.
“Mae cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr wedi ysgogi darparwyr tai cymdeithasol i ddarparu tai sy’n ymateb yn well i’r sefyllfa gyfredol o ran budd-daliadau ac sy’n diwallu anghenion tenantiaid mewn modd mwy priodol.”
‘Grymuso’
Ychwanegodd: “Mae hefyd angen sicrhau bod tenantiaid tai cymdeithasol yn cael digon o wybodaeth am sut y bydd newidiadau’n effeithio arnynt, i’w grymuso i wneud y penderfyniadau gorau er eu lles nhw a’u teuluoedd.
“Yn y pen draw, pan fo anghydfodau gwleidyddol neu’r methiant i gydweithio neu ymateb yn ddigon cyflym i newidiadau yn amharu ar y gwasanaethau a ddarperir, tenantiaid cymdeithasol a’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sy’n dioddef.”
‘Nerfusrwydd’
Mewn ymgynghoriad ar-lein yn gynharach eleni gyda 12,000 o bobl yn trafod materion gan gynnwys lles gwelwyd bod pobl yng Nghymru yn gyffredinol yn anhapus gyda rhai o fesurau lles Llywodraeth y DU, gan gynnwys cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr, neu’r ‘dreth ystafell wely’.
Meddai Jess Blair, Rheolwr Polisi a Phrosiectau Sefydliad Materion Cymreig am yr adroddiad: “Mae diwygio lles ar lefel y DU yn cael effaith enfawr ar bobl sy’n byw yng Nghymru.”
Ychwanegodd Jess Blair: “Yn yr Alban rydym wedi gweld y llywodraeth yn lliniaru effeithiau’r dreth ‘ystafell wely’, drwy dalu am y cymhorthdal, ond nid yw hyn wedi digwydd yng Nghymru.
“Gwelsom, er gwaethaf cefnogaeth i wneud pethau’n wahanol am les yng Nghymru, mae nerfusrwydd o gwmpas datganoli lles, yn enwedig o ran sut y bydd unrhyw fesurau o’r fath yn cael eu hariannu.”