Mae adeilad tafarn ar gyrion Abertawe wedi cael ei ddinistrio gan yrrwr Jac Codi Baw yn ystod y nos.

Roedd adroddiadau bod dyn wedi cael ei weld yn gyrru’r cerbyd i mewn i ochr tafarn y Royal Oak ym Mhenclawdd am 2 o’r gloch fore Sul.

Cafodd estyniad y dafarn ei ddinistrio yn ystod y digwyddiad, cyn i’r to ddod i lawr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond ni chafodd unrhyw un ei anafu.