Mae Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, yr Arglwydd Sewel wedi ymddiswyddo.

Daw ei ymddiswyddiad wedi i’r Sun on Sunday ddatgelu ei fod wedi cael ei ffilmio’n cymryd cyffuriau gyda phuteiniaid.

Mae lle i gredu bod yr Arglwydd Sewel wedi ymddiswyddo hefyd fel cadeirydd pwyllgorau’r Arglwyddi.

Hyd yma, fe fu gan yr Arglwydd Sewel gyfrifoldeb dros gynnal safonau’r Arglwyddi.