Carwyn Jones
Fe fydd cynllun teithio newydd i bobol ifanc yn cael ei lansio gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yng Nghorwen heddiw.

Yn ystod yr ymweliad, fe fydd gwasanaeth newydd TrawsCymru T3 yn cael ei lansio er mwyn cysylltu Wrecsam a’r Bermo.

Mae’n un o’r gwasanaethau pellter hir sy’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd aelodau o Glwb Ieuenctid Corwen yn bresennol yn lansiad y tocynnau teithio newydd.

Nod y cynllun yw annog mwy o bobol i gofrestru i dderbyn y cerdyn cyn mis Medi.