Ysbyty Brenhinol Gwent
 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymchwilio i farwolaeth babi bach saith awr ar ôl iddi gael ei geni yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Bu farw’r babi bach yn dilyn cymhlethdodau yn ystod ei genedigaeth ac mae ei rhieni, sy’n dod o Gwmbrân, yn mynnu y gallai’r ysbyty fod wedi gwneud mwy i’w hachub.

Rhoddodd Claire White, 27, enedigaeth i’w merch fach hi a’i phartner James Eden, 36, ar Ebrill 28 eleni.

Fe brofodd Claire White anawsterau yn ystod misoedd diwethaf ei beichiogrwydd, er nad oedd y sgan 12 wythnos wedi tynnu sylw at unrhyw broblemau.

Fis cyn y dyddiad yr oedd hi’n disgwyl rhoi genedigaeth, cafodd profion eu cynnal ac roedd cyfradd curiadau calon y babi’n is na’r disgwyl.

Ar ôl i’r babi gael ei eni’n gynnar, doedd dim modd dod o hyd i weithgarwch yn ei hymennydd a chafodd peiriant cynnal bywyd ei ddiffodd rai oriau’n ddiweddarach.

Galw am atebion

Mae llefarydd ar ran y bwrdd iechyd wedi cadarnhau wrth Golwg360 fod ymchwiliad ar y gweill.

Mae ei rhieni’n credu y gallai eu babi fod wedi goroesi pe bai hi wedi cael ei geni’n gynt.

Maen nhw wedi galw ar y bwrdd iechyd am atebion.

Ymchwiliad llawn

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae ein meddyliau gyda’r teulu yn y cyfnod anodd iawn hwn.

“Rydym yn cynnal ymchwiliad llawn o’r achos er mwyn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth i drafod y sefyllfa gyda’r teulu, ac rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am yr amser mae hyn wedi’i gymryd.

“Rydym yn gwerthfawrogi fod aros i’r ymchwiliad gael ei gwblhau yn achosi pryder i bawb.

“Wrth gwrs, fe fyddwn yn cyfarfod â’r teulu ar unwaith i rannu ein canfyddiadau cyn gynted ag y bo’r gwaith yn cael ei gwblhau.

“Rydym yn disgwyl gallu rhoi dyddiad ar gyfer y cyfarfod hwn i’r teulu yn y dyddiau i ddod.”