Charles a Camilla yn Ynysoedd Sili
Mae’r heddlu ar Ynysoedd Sili wedi cyhoeddi amnest ar gonau traffig ar gyfer ymweliad y Tywysog Charles a Camilla heddiw.

Mae plismon ar yr ynys wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i alw ar y cyhoedd i chwilio yn eu tai, eu gerddi a’u garej ac i ddychwelyd unrhyw gonau at yr heddlu.

Dywedodd na fyddai unrhyw un yn mynd i drafferth pe baen nhw’n cael eu dychwelyd.

Prin yw’r troseddau sy’n cael eu cyflawni ar yr ynysoedd – y rhai diweddaraf yw ceffyl yn difrodi ceir a ffrae tros sied sydd wedi para hanner canrif.

Mewn neges ffraeth ar dudalen Facebook heddlu’r ynysoedd, dywedodd y Sarjant Taylor: “Cael a chael fydd hi i ni gael digon [o gonau] i greu ‘Parth Dim Parcio’ teilwng ar gyfer yr ymweliad Brenhinol heddiw.

“Yn y gobaith o oroesi’r argyfwng yma a chadw fy swydd, mae gen i gynllun. Mae’n cynnwys dwy elfen…”

Gofynnodd i yrwyr beidio gwthio’r conau gyda thrwyn eu ceir i greu mwy o le gan y byddai “ceir mwy sgleiniog na’n rhai ni yn eu defnyddio nhw am gyfnod byr heddiw”.

Galwodd ar unrhyw un sydd wedi ‘benthyg’ conau ar gyfer ‘prosiectau’ i’w dychwelyd i’r heddlu.

Mae miloedd o bobol wedi “hoffi” tudalen Facebook yr heddlu sy’n cynnwys y nodyn.