Malcolm Campbell ar draeth Pentywyn yn 1927
Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal ar draeth Pentywyn yn Sir Gâr heddiw i nodi union 90 mlynedd ers i Malcolm Campbell dorri’r record cyflymdra tir mewn car.

Fe fydd Don Wales yn cymryd rhan mewn arddangosfa yn y car ‘Blue Bird’ ddefnyddiodd ei dad-cu i dorri’r record byd yn 1925.

Bryd hynny, cyrhaeddodd y car gyflymdra o 146 milltir yr awr.

Mae’r car bellach yng ngofal yr Amgueddfa Foduro Genedlaethol yn Beaulieu yn Swydd Hampshire.

Mae’r arddangosfa’n dechrau am 4 o’r gloch y prynhawn yma.