Y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Priti Patel
Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi faint o bobol sydd wedi marw tra’n hawlio budd-daliadau diweithdra erbyn yr hydref.

Daeth cadarnhad gan y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Priti Patel, fod yr ystadegau’n cael eu casglu ar hyn o bryd.

Mae Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Oldham a Saddleworth, Debbie Abrahams wedi beirniadu’r oedi o fwy na phedair wythnos cyn cyhoeddi’r ffigurau.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin, dywedodd Debbie Abrahams: “Nawr yw’r amser i gyflwyno.

“Byddwch yn agored, yn dryloyw a chyhoeddwch y ffigurau y mae’r cyhoedd a’r Senedd yn galw amdanyn nhw.

“Hebddyn nhw, mae’n dwyn anfri ar y Tŷ.”

Daeth cais gan y Comisiynydd Gwybodaeth ym mis Ebrill yn gofyn i’r Adran Waith a Phensiynau i gyhoeddi nifer y bobol fu farw rhwng mis Tachwedd 2011 a Mai 2014 tra’n hawlio budd-dal anabledd a gwaith, a lwfansau cymorth.

Ychwanegodd y Comisiynydd Gwybodaeth y dylid rhannu’r wybodaeth yn gategorïau, gan gynnwys nifer y bobol oedd yn holliach i weithio.

Mae mwy na 240,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Prydain i gyhoeddi’r manylion.