Bydd hwb ychwanegol o £30 miliwn yn cael ei roi i wella trafnidiaeth wledig, cefnogi busnesau amaethyddol a chreu swyddi yn y diwydiant bwyd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r arian yn rhan o raglen datblygu wledig Llywodraeth Cymru i ddefnyddio mwy na £900m i adfywio a chefnogi cefn gwlad Cymru erbyn 2020.

Bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i adfywio cymunedau, diogelu adnoddau naturiol, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ysgogi twf a chreu swyddi mewn ardaloedd gweledig.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ei bod eisiau hybu gweithgaredd economaidd tra’n diogelu adnoddau.

Cynlluniau

Fel rhan o’r buddsoddiad diweddaraf o £30 miliwn, bydd ffermwyr, cwmnïau a sefydliadau gwledig eraill yn cael eu gwahodd i wneud cais am arian o dan bedwar cynllun newydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

–          Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig i wella cludiant a chysylltedd.

–           Grant Cynhyrchu Cynaliadwy i helpu ffermwyr.

–          Cynllun Buddsoddi Busnesau Bwyd i greu swyddi yn y sector bwyd

–          Menter Strategol Cydweithredol sydd yn cynnig arian i syniadau arloesol mewn unrhyw sector.

‘Ffynnu’

Meddai Rebecca Evans AC: “Yng Nghymru, mae gennym ni’r gyfran uchaf o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn y DU – ac mae’r cynllun hwn mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu’r ardaloedd hynny i ffynnu.

“Mae’n rhaid i’r hyn rydym ni’n ei wneud heddiw fod â’r nod o wneud y gorau o’r cyfleoedd enfawr sydd yng nghefn gwlad Cymru, er lles cenedlaethau’r dyfodol.

“Dw i am i ni ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol a chefnogi’r economi wledig ehangach fel bod cefn gwlad Cymru yn fwy cadarn a chynaliadwy.”

Mae’r rhaglen Cymunedau Gwledig, fydd yn para am saith mlynedd hefyd yn cynnwys grantiau a ddyfernir o dan y cynllun Glastir a chynlluniau LEADER.

Mae cyllid ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru, gyda chynghorwyr Llywodraeth Cymru yn dweud bod o leiaf 20 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnwys ardaloedd gwledig.