Simon Thomas
Mae aelodau Plaid Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi dewis ymgeiswyr ar restr ranbarthol ar gyfer Etholiad Cyffredinol nesaf Cymru yn 2016.

Simon Thomas a ddewiswyd fel prif ymgeisydd y rhanbarth, gyda Helen Mary Jones yn ail a Vicky Moller yn drydydd ar y rhestr ranbarthol.

Cafodd Simon Thomas ei ailethol fel prif ymgeisydd y rhanbarth, ac mae wedi dal y swydd honno ers 2011.

‘Ymgyrch gryfaf erioed’

Dywedodd Simon Thomas, AC y Canolbarth a’r Gorllewin, ei fod yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith gan wneud “yn siŵr y cawn yr ymgyrch gryfaf erioed yn 2016 i ennill mwy o seddi, a Llywodraeth Cymru Plaid Cymru.”

Roedd Helen Mary Jones, ymgeisydd Llanelli yn falch o gael ei dewis yn ail ar y rhestr ranbarthol ac yn llongyfarch Simon Thomas.

Ei gobaith hi ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai, meddai, yw adennill Llanelli oddi wrth y Blaid Lafur a sicrhau “mai Leanne Wood sy’n cael ei hethol yn Brif Weinidog nesaf.”

Dywedodd Vicky Moller ei bod hefyd yn edrych ymlaen at baratoadau’r etholiad ac yn “falch o’r hyder a ddangosodd pobl ynof i a’m gweledigaeth.”