Bydd Llywodraeth y DU yn amlinellu diwygiadau posibl i system ariannu’r BBC heddiw yn y cam diweddaraf tuag at adnewyddu siarter frenhinol y gorfforaeth.
Bydd Papur Gwyrdd, sy’n cael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, yn ymgynghori ar ddisodli ffi’r drwydded.
Mae disgwyl i’r ymgynghoriad hefyd ofyn barn pobl am leihau ystod o raglenni’r BBC i ganolbwyntio ar wasanaeth cyhoeddus sydd ddim yn anelu at gael ffigyrau gwylio uchel.
Yn ôl adroddiadau mae rhai yn y Llywodraeth eisiau cael gwared a’r sianel newyddion 24 awr, torri nôl ar y wefan, a chael gwared a rhaglenni adloniant drud, fel The Voice.