Trudy Jones
Fe fydd angladd dynes o Gymru a gafodd ei lladd yn Tiwnisia yn cael ei gynnal heddiw.

Roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent ymhlith 38 o bobl a gafodd eu saethu’n farw gan ddyn arfog ar draeth yn Sousse ar 26 Mehefin.

Roedd 30 o’r rhai gafodd eu lladd yn dod o Brydain.

Roedd Trudy Jones ar wyliau gyda’r ffrindiau yn Tiwnisia pan gafodd ei lladd.

Bydd angladd y fam i bedwar o blant yn cael ei gynnal yn Eglwys Dewi Sant yn y Coed Duon am hanner dydd heddiw.

Mae disgwyl i angladd dau o bobl eraill o’r Alban,  Billy a Lisa Graham, o Bankfoot ger Perth, gael ei gynnal heddiw hefyd.