Drôn
Fe ddylai rhagor o arian gael ei wario ar yr SAS a dronau i fynd i’r afael a’r bygythiad gan frawychwyr IS, mae David Cameron wedi dweud wrth benaethiaid amddiffyn.

Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar benaethiaid y lluoedd arfog a swyddogion i edrych ar ffyrdd o gynyddu’r gwariant ar y lluoedd arbennig a mesurau gwrth-frawychiaeth fel rhan o’r adolygiad i strategaeth amddiffyn a diogelwch (SDSR).

Mae’r penaethiaid hefyd wedi cael eu hannog i ystyried defnyddio dronau i gasglu cudd-wybodaeth am IS a grwpiau brawychol eraill.