Chris Corcoran
Bydd ymgyrch i annog pobl ledled Cymru i ddysgu a defnyddio’r iaith Gymraeg yn ymweld â rhai o ddigwyddiadau diwylliannol, cymunedol a theuluol Cymru dros y misoedd nesaf.
Lansiwyd ‘Iaith ar Daith’ – sef estyniad i ymgyrch ‘Pethau Bychain’ Llywodraeth Cymru yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd yr wythnos hon gan y digrifwr a darlledwr Chris Corcoran.
Gwelwyd y digrifwr yn ddiweddar ar y rhaglen i ddysgwyr ar S4C, Cariad @ Iaith.
Syniad Gwych
Meddai Chris Corcoran: “Mae’r syniad o ‘Iaith ar Daith’ dros yr haf yn un gwych.
“Mae’n gyfle i gwrdd â phobl a’u hannog i siarad Cymraeg. Mynd â’r iaith at y bobl yw’r ffordd ymlaen yn sicr – mae’n ffordd o gyrraedd pobl ar lefel bersonol!
“Rydyn ni mor ffodus i fod ag iaith unigryw yma yng Nghymru a dw i am ei gweld hi’n mynd o nerth i nerth. Mae cymaint o fanteision i siarad Cymraeg a dw i’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog mwy nag erioed i ddysgu’r iaith a mwynhau ei defnyddio.”
‘Iaith ar Daith’ ar faes y Sioe Fawr a’r Steddfod
Bydd’ Iaith ar Daith’ yn ymweld â stondin Clwb Ffermwyr Ifanc yn y Sioe Fawr rhwng 20 a 24 Gorffennaf, a stondin Llywodraeth Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Maldwyn rhwng 1 ac 8 Awst, yn ogystal â digwyddiadau eraill dros yr haf yn cynnwys sioeau Môn a Sir Benfro.
Mae ‘Iaith ar Daith’ yn rhan o ymgyrch Pethau Bychain Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst y llynedd – gyda’r nod o ddenu Cymry o bob oed a lefel, o ddysgwyr Cymraeg i siaradwyr rhugl.
Er mwyn dysgu mwy am yr ymgyrch, ewch i www.llyw.cymru/cymraeg <http://www.llyw.cymru/cymraeg> neuwww.facebook.com/Cymraeg <http://www.facebook.com/Cymraeg> neu dilynwch @iaithfyw ar Twitter