Carwyn Jones
Fe ddylai Prif Weinidog Cymru “sicrhau bod ei wefan yn gwbl ddwyieithog” yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Ar hyn o bryd dim ond Saesneg sydd ar wefan http://www.carwynjonesam.co.uk/ Carwyn Jones, er mai ef sy’n gyfrifol am y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru.

Meddai llefarydd Carwyn Jones: “Mae yna drafodaethau yn cymryd lle ar y foment ynglŷn â chyfieithiad o’r wefan, a fydd y gwaith yn dechrau yn fuan.”

Ym mis Tachwedd 2013 roedd Carwyn Jones yn lansio ymgyrch yn galw ar siaradwyr Cymraeg i wneud pump o bethau bychain drwy gyfrwng yr iaith bob dydd.

“Yr her nesaf i ni fel Llywodraeth yw meithrin sgiliau siaradwyr Cymraeg ar gyfer y gweithle,” meddai Carwyn Jones ar y pryd.

“Rwyf hefyd yn awyddus i bob un ohonom feddwl am wneud o leiaf pum peth yn Gymraeg bob dydd yn gymdeithasol neu’n broffesiynol.

“Er enghraifft, cynnal pum sgwrs yn Gymraeg, dysgwyr yn dysgu pum gair newydd, ysgrifennu pum e-bost yn Gymraeg – hynny yw, creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd newydd.”

“Rhaid ei farnu”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae’r ffaith nad oes Cymraeg ar wefan Carwyn Jones yn tanseilio ei neges.

“Os yw’r Prif Weinidog yn credu yn ei ymgyrch ei hun, dylai fe sicrhau bod ei wefan yn gwbl ddwyieithog,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ond mae’r Gymdeithas hefyd yn rhybuddio na fydd cynnydd i’r iaith heb “ymateb polisi cynhwysol”.

“Allwn ni ddim dibynnu ar ymatebion unigolyddol, fel ymgyrch ‘y pethau bychain’, yn unig er mwyn llwyddo. Mae hefyd angen gweithredu ar y pethau mawrion; mae ’na wir angen am addysg Gymraeg i bawb er enghraifft.

“Y Prif Weinidog sydd wedi dewis canolbwyntio ar y pethau bychain, felly mae rhaid ei farnu yn ôl ei ffon fesur ei hun.”